Alan Bennett | |
---|---|
Ganwyd | 9 Mai 1934 Armley |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | actor, sgriptiwr, dramodydd, dyddiadurwr, llenor, actor llwyfan, cyfarwyddwr ffilm, digrifwr |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Gwobr Laurence Olivier, Medal Bodley, Gwobr Arbennig Cymdeithas Theatr Llundain, Critics' Circle Award for Distinguished Service to the Arts, Gwobr Hawthornden, PEN/Ackerley Prize |
Awdur, actor, difyrrwr a dramodydd o Loegr yw Alan Bennett (ganed 9 Mai 1934). Cafodd ei eni yn Armley yn Leeds, Gorllewin Swydd Efrog, yn fab i gigydd. Mynychodd Ysgol Fodern Leeds. Dysgodd Rwsieg tra'n gwneud ei Wasanaeth Cenedlaethol a chafodd le yng Ngholeg Sidney Sussex, Caergrawnt. Wedi hyn, aeth i Goleg Exeter, Rhydychen lle derbyniodd gradd dosbarth cyntaf. Tra'n astudio'n Rhydychen, perfformiodd mewn llawer o gomedïau yn yr Oxford Revue, gydag actorion a ddaeth yn llwyddiannus yn y dyfodol. Parhaodd yn y brifysgol am nifer o flynyddoedd, lle gwnaeth waith ymchwil a dysgodd Hanes Ganol Oesol ond penderfynodd nad oedd bywyd fel ysgolhaig yn addas ar ei gyfer.